Friday 6 June 2008

Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham 6-6-08

Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham 6-6-08.

Cynhaliwyd cyfarfod misol grŵp Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham yn West Bridgeford, Nottingham ar fore dydd Gwener 6ed Mehefin. Cafodd pawb amser da yn sgwrsio ac yn mwynhau cacennau cartrefol Beti.





9 comments:

Viv said...

Tro cyntaf dw i wedi gweld fy hunan yn trio siarad Cymraeg Jonathan! Tipyn o sioc rhaid i mi ddweud. P'run bynnag, danfonais ymlaen at Dr Christine Jones fy niwtor cwrs Cymraeg ar lein Prifysgol Llanbedr Pont Steffan gyda neges sef 'os isio laff gwelwch hwn', a chredwch neu beidio dyma'r neges sy wedi dod nôl, "Gwych - Cymraeg arbennig o raenus. Cofiwch wneud un arall yn dweud pa mor ffantastig yw cyrsiau ar-lein Prifysgol Cymru Llambedr Pont Steffan – a’u tiwtoriad wrth gwrs!
Christine".
mae Christine yn ferch garedig iawn, iawn, iawn cofiwch!!!!!!!!
Ta-ra rŵan, Viv

Cymry'r Canolbarth said...

Diolch am dy eiriau caredig Viv!

neil wyn said...

S'mae Jonathon,Dwi newydd clywed dy gyfweliad ar raglen Hywel a Nia. Da iawn am wneud y clipiau i gyd, mae'n reit diddorol cael clywed profiadau'r criw o Gymry a dysgwyr draw yn y canolbarth. Dwi wedi bod wrthi ers rhai saith mlynedd erbyn hyn (dysgu'r iaith hynny yw!) ar Lannau Mersi, gyda help cyrsiau Llambed, a Menter Sir y Fflint hefyd, sy'n trefnu sesiynau sgwrs ac ati. Llongyfarchiadau ar safon dy Gymraeg hefyd, fel dysgwr dwi'n gwerthfawrogi'r holl gwaith galed sy'n angen i ti gwneud er mwyn cyraedd safon felly, pob hwyl, Neil

Emma Reese said...

Neil, mi ddes i yma i longyfarch Jonathan am ei gyfweliad llwyddiannus efo Hywel a Nia, ond mi nest ti fy nghuro i!!

Beth bynnag, gad i mi ddweud wrthat ti eto Jonathan bod dy Gymraeg di'n ardderchog. Ac mae'n hyfryd cael clywed yr aelodau yma yn siarad Cymraeg. Da iawn bob un ohonoch chi!

Viv said...

Collais i'r rhaglen bore dd.Iau y deuddegfed o Fehefin ond gyda'r rhyfeddodau Google newydd glywed dy ddarn gyda Hywel a Nia. Da iawn, iawn, iawn i ti Jonathan; mor rugl a ddiddorol mas draw. Viv

Cymry'r Canolbarth said...

Unwaith eto, diolch i Neil ac Emma am eich geiriau caredig dros ben.

Viv said...

Da oedd gwylio fideos Siriol ac Allan. Pam nad yw pobl eraill yn gadael'u sylwadau tybed? Ydyn nhw'n swil dych chi'n meddwl? Bydd pawb yn gael llond bol o weld Viv bob tro mae'n on'd yw hi?
Hwyl fawr,
Viv

Viv said...

Mae'n ddrwg 'da fi, dileu (mae'n)yn y sylw blaen.
Viv

Viv said...

Da oedd gwrando ar Beti yn darlithio yn yr Ysgol Undydd Derby heddiw 27ain Medi 2008. Diddorol dros ben oedd yr hanesion am y cymeriadau Llanrwst yn enwedig y teulu ap Dafydd, Myrddyn, Iolo ayyb.
Viv