Sunday 28 September 2008

Ers dod yn ol o'r Eisteddfod yr ydw i wedi bod yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan.
Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd.

Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.
Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!