Monday 23 November 2009

Gweithdy Cymraeg 21-11-09

Cawson ni nifer barchus iawn o bobl yn y gweithdy Cymraeg bore dydd Sadwrn yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Derby. Cafodd pawb amser da ac roedd hi'n gyfle da i ymarfer yr hen iaith. Yr ydyn ni'n mynd ymlaen efo'r gweithdy misol ar ddydd Sadwrn 19-12-09 ac unwaith eto yn fisol yn ystod 2010. Mi fydd'na groeso cynnes i bawb sy'n dod!

Sunday 4 October 2009

Bore Coffi popeth yn Gymraeg Nottingham ac Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2009

Penwythnos prysur yn Nottingham a Derby! Mi ges i fodd i fyw'r penwythnos yma, dau ddigwyddiad Cymreig a Chymraeg o fewn yr un penwythnos!
Yn gyntaf y cyfarfod misol Bore Coffi Popeth yn Gymraeg ar fore dydd Gwener, y tro 'ma yn Nhŷ Beryl yn Chilwell, roedd 12 ohonon ni, gan gynnwys tri o bobl newydd sbon sef Lewis Jones o Gymdeithas Cymry Nottingham, Yvonne Wilson yn enedigol o'r Gogledd, a Joella Price sy'n ferch ifanc enedigol o Bort Talbot ac yn astudio fel nyrs yn Ysbyty'r Brif Ysgol Nottingham (Gyda llaw mi fydd y bore coffi nesa yn nhŷ Howell a Maureen yn West Bridgford, dydd Gwener, 6ed Tachwedd).
Wedyn ar ddydd Sadwrn wnaeth 44 o bobl dod ynghyd ar gyfer y 5ed Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Rhaid dweud diolch yn fawr iawn i'n gwirfoddolwyr holl gan gynnwys Morfudd Benyon (diolch am eich cymorth gwerthfawr iawn yn y gegin!) Huw ac Ann Griffiths, Marianne a John Pritchard (sy'n aelod o'r Orsedd), Viv Harris a Beti Potter. Diolch hefyd i'n tiwtoriaid Elin Merriman ac Eileen Walker ac yn olaf i bawb sy wedi dod.
Mae'r cylch yn prysur drefnu 3 o Weithdy Cymraeg yn Derby, felly os oes diddordeb gyda phobl, mi ddylen nhw gysylltu â ni trwy'r manylion cysylltu ar ein gwefan ni, gwelir (www.derbywelshlearnerscircle.blogpot.com)

Sunday 26 July 2009

Cwrs Undydd Basingstoke 2009


Cafodd Cwrs Cymraeg Undydd ei gynnal ar y 29ain o Fawrth yng Ngholeg Quenn Mary, Basingtoke. Trefnydd y dydd oedd Gareth Thomas, cafodd y cwrs ei arwain gan Margaret ac Ifan Roberts ac roedd ‘na thelynores i chware dros amser cinio! .
Safodd pump yr arholiad Mynediad WJEC yn fis Mehefin

Sunday 5 July 2009

Parti ardd, noson allan ar y dre, a hwyl ar yr afon Trent



Parti ardd, Noson Cinio popeth yn Gymraeg ac afon daith ar yr afon Trent

Roedd digonedd o'r 'pethau' yn y canolbarth dros y mis diweddaf. Yn gyntaf wnaeth Gill Williams aelod o Gymdeithas Gymreig Derby trefnu parti ardd ar bnawn Dydd Sul 21 o Fehefin i godi arian dros y Gymdeithas a hefyd dros y Capel Cymraeg. Roedd hi'n bnawn hwylus iawn gyda thua 30 - 40 o bobl yn bresennol dros y prynhawn. Roedd Gill yn lwcus efo'r tywydd hefyd roedd hi'n sych a heulog heb fod yn rhy boeth.

Ar nos Wener 26 o Fehefin wnaeth 4 ohonon ni ( y to ifanc) sef Elin, Rhian a Joella a finnau cwrdd am bryd o fwyd yn Pizza Express ger yr eglwys Gadeiriol Derby. Yr ydyn ni'n bwriadu gwneud yr un peth eto bob 4-6 wythnos.


Roedd grŵp mwy o faint ar yr afon daith ar fore Dydd Gwener gyntaf o Orffennaf. Wnaethon ni ymuno a'r cwch 'Nottingham Princess' wrth Trent Bridge, ac wedyn cawson ni daith tair awr o hyd ar yr afon. Roedd nifer arall o rwpia yn bresennol ond cawson ni sgwrs braf yn yr hen iaith dros ginio cyn i'r 'adloniant' dechrau, sef cerddoriaeth swnllyd sy wedi rhoi taw ar y siarad yn syth. Er gwaethaf hynny cawson ni amser da, a diolch i Viv Harris am drefnu'r daith.

Friday 1 May 2009

Bore Coffi Popeth yn Gymraeg, Mai 2009



Cafodd aelodau Cymry Cymraeg y Gymdeithas Cymry Nottingham croeso arbennig o gynnes yn Nhŷ Gwladys yn West Bridgford, Nottingham ar Ddydd Gwener 1taf o Fai. Roedd 12 yn bresennol ac roedd arlwy haul o fisgedi, cacen, te a choffi ar gael. Wnaeth pawb sgwrsio'n braf am gyfnod o ddwy awr cyn daeth y cyfarfod i ben tua hanner dydd.
Mi fydd y cyfarfod nesa yn digwydd ym Mis Gorffennaf pan fydd y grŵp yn mwynhau afondaith ar gwch ar yr afon Trent. Mae pawb yn edrych ymlaen yn arw ac yn gobeithio am dywydd teg. Ar ôl hynny ni fydd cyfarfod bore coffi tan Fis Medi. Diolch yn fawr iawn i Gwladys am ei lletygarwch.

Tuesday 24 March 2009

Cyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby Dydd Mawrth 23-3-09


Cawson ni dipyn o hwyl yn Derby'r bore'ma. Wnaeth un deg un o aelodau'r Cylch Dysgwr Cymraeg Derby cyfarfod yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr i gael paned, ac i adrodd hanesion, darllen dipyn, sgwrsio a chyfieithu o lyfr yn y gyfres Stori Sydyn, sef Y Jobyn Gorau yn y Byd gan Gary Slaymaker, y Barry Norman Cymreig.
Wedyn ces i'r cyfle i wneud cyfweliad fideo efo Dewi Morris sy wedi ymuno a'r grŵp yn ddiweddar. Mae Dewi yn dod o ardal Dolgellau yn wreiddiol, ond mae o wedi bod yn byw yn Derby ers 1964. Er gwaethaf hynny, mae o'n siarad yr hen iaith o hyd. Mae o'n gymorth mawr i aelodau oherwydd ei allu o i esbonio ystyr ymadroddion a hefyd i gywiro gwalltiau ynganu!
Mi fydd y grŵp yn cymryd brêc dros wyliau'r Pasg.

Mae Gareth Jones, aelod o'r grŵp sy'n byw yn ardal Clay Cross yn mynd i sefyll yr arholiad Defnyddio'r Gymraeg fel ail Iaith i Oedolion Safon Uwch ym mis Mehefin. Mae'r grŵp i gyd yn dymuno pob lwc i Gareth yn yr arholiad.


Sunday 8 March 2009

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a dathlu’r Iaith Gymraeg




Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a dathlu’r Iaith Gymraeg
Mi ges i dipyn o hwyl dros yr wythnos diwethaf, yn gyntaf ar fore ddydd Mawrth, wnaeth Jane aelod weddol newydd o'r Cylch Dysgwyr Derby yn dod â Chacennau Cri yn ôl o Gaerdydd, digon i bawb presennol. Diolch i ti Jane! Wedyn wrth grwydro strydoedd Belper mi wnes i sylwi bod sawl arwydd o barch ymhlith trigolion Belper tuag at nawddsant Cymru. Roedd banner y Ddraig Goch yn chwifio ar ben polyn yn Nhardd Cymunedol Belper ger Tafarn y Talbot.
Hefyd wrth gerdded adre heibio siop diodydd mi wnes i sylwi ar sioe'r ffenestr ffrynt efo baneri Draig Goch dros y lle a dewis eang o Gwrw a Wisgi (Penderyn wrth gwrs) o Gymru.
Wedyn pan o'n i gerdded adre wnes i alw i weld Tŷ Kay, cyn aelod o Ddosbarth Cymraeg WEA Belper. Mae'na enw Cymraeg ar ei thŷ hi, sef Gardd Mair.
Bore Dydd Gwener es i draw i Nottingham unwaith eto, i ymuno a bore Coffi'r Gymdeithas roedd 12 ohonon ni'n bresennol, gan gynnwys Dewi Morris sy'n aelod newydd i'r grŵp.Cawson ni groeso arbennig o gynnes oddi wrth Gwynne Davies.
Dros y Sul mi wnes i fynd a'r wraig dros i Holt, pentre’ bach dros yr afon Dyfrdwy ble roedd Sesiwn Siarad yn digwydd. Wedyn roedd Marilyn wrth ei bodd yn siopa yng nghanol Wrexham. Yfory dw i'n ôl yn y gwaith. Rhaid ennill bywoliaeth ond oes!

Sunday 22 February 2009

Bore Coffi Mis Bach 2009


Cawson ni groeso haul a chynnes yn Nhŷ Dilys a Dafydd yn Wollaton ar fore Dydd Gwener 19 o Chwefror.
Yn bresennol oedd Dilys a Dafydd wrth gwrs a hefyd Gwynne, Gwladys, Howell, Heulwen, Beryl, Beti, Siriol, Audrey, Jonathan, a Viv. Fel arfer roedd dewis eang o ddiodydd, cacennau a bisgedi. Mi fydd y cyfarfod nesa yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies ar y 6ed o Fawrth.