Tuesday 24 March 2009

Cyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby Dydd Mawrth 23-3-09


Cawson ni dipyn o hwyl yn Derby'r bore'ma. Wnaeth un deg un o aelodau'r Cylch Dysgwr Cymraeg Derby cyfarfod yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr i gael paned, ac i adrodd hanesion, darllen dipyn, sgwrsio a chyfieithu o lyfr yn y gyfres Stori Sydyn, sef Y Jobyn Gorau yn y Byd gan Gary Slaymaker, y Barry Norman Cymreig.
Wedyn ces i'r cyfle i wneud cyfweliad fideo efo Dewi Morris sy wedi ymuno a'r grŵp yn ddiweddar. Mae Dewi yn dod o ardal Dolgellau yn wreiddiol, ond mae o wedi bod yn byw yn Derby ers 1964. Er gwaethaf hynny, mae o'n siarad yr hen iaith o hyd. Mae o'n gymorth mawr i aelodau oherwydd ei allu o i esbonio ystyr ymadroddion a hefyd i gywiro gwalltiau ynganu!
Mi fydd y grŵp yn cymryd brêc dros wyliau'r Pasg.

Mae Gareth Jones, aelod o'r grŵp sy'n byw yn ardal Clay Cross yn mynd i sefyll yr arholiad Defnyddio'r Gymraeg fel ail Iaith i Oedolion Safon Uwch ym mis Mehefin. Mae'r grŵp i gyd yn dymuno pob lwc i Gareth yn yr arholiad.


Sunday 8 March 2009

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a dathlu’r Iaith Gymraeg




Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a dathlu’r Iaith Gymraeg
Mi ges i dipyn o hwyl dros yr wythnos diwethaf, yn gyntaf ar fore ddydd Mawrth, wnaeth Jane aelod weddol newydd o'r Cylch Dysgwyr Derby yn dod â Chacennau Cri yn ôl o Gaerdydd, digon i bawb presennol. Diolch i ti Jane! Wedyn wrth grwydro strydoedd Belper mi wnes i sylwi bod sawl arwydd o barch ymhlith trigolion Belper tuag at nawddsant Cymru. Roedd banner y Ddraig Goch yn chwifio ar ben polyn yn Nhardd Cymunedol Belper ger Tafarn y Talbot.
Hefyd wrth gerdded adre heibio siop diodydd mi wnes i sylwi ar sioe'r ffenestr ffrynt efo baneri Draig Goch dros y lle a dewis eang o Gwrw a Wisgi (Penderyn wrth gwrs) o Gymru.
Wedyn pan o'n i gerdded adre wnes i alw i weld Tŷ Kay, cyn aelod o Ddosbarth Cymraeg WEA Belper. Mae'na enw Cymraeg ar ei thŷ hi, sef Gardd Mair.
Bore Dydd Gwener es i draw i Nottingham unwaith eto, i ymuno a bore Coffi'r Gymdeithas roedd 12 ohonon ni'n bresennol, gan gynnwys Dewi Morris sy'n aelod newydd i'r grŵp.Cawson ni groeso arbennig o gynnes oddi wrth Gwynne Davies.
Dros y Sul mi wnes i fynd a'r wraig dros i Holt, pentre’ bach dros yr afon Dyfrdwy ble roedd Sesiwn Siarad yn digwydd. Wedyn roedd Marilyn wrth ei bodd yn siopa yng nghanol Wrexham. Yfory dw i'n ôl yn y gwaith. Rhaid ennill bywoliaeth ond oes!