Friday 14 May 2010

Howell Price ar radio Cymru

Cafodd Howell Price ei gyfweld ar Radio Cymru ar ddydd Iau. Roedd o'n adolygu'r ffilm newydd Robin Hood ar raglen Nia.
www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00sbpb4/Nia_Roberts_13_05_2010/
Mae Howell yn mynychu'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg sy'n digwydd yn fisol yn Nottingham.

Sunday 9 May 2010

Pica ar y Maen


Mi ges i benwythnos diddorol iawn dros y Sul. Ar y Dydd Gwener gyrrais i draw i Nottingham i ymuno a chriw'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Cymdeithas Cymry Nottingham. Roedd 10 o bobl yn bresennol yng nghartref Dafydd a Dilys Hughes. Cawson ni awr a hanner o sgwrs ddifyr ac wrth i mi adael ces i nes neges tecs oddi wrth fy ngwraig i ffonio Radio Cymru yng Nghaerdydd. O ganlyniad i'r sgwrs mi fydd aelodau o'r Gymdeithas yn cael eu cyfweld ar Radio Cymru cyn bo hir. Felly mi wna i son mwy am hynny yn y bennod nesa.
Ar Ddydd Sadwrn es i draw i Derby ar gyfer y Gweithdy Cymraeg Misol. Wnaeth Elin Merriman y tiwtor jobyn go dda o arwain y sesiwn ac ymhlith yr wyth o bobl yno roedd 'Ifan' sy'n aelod o SSIW (Say Something in Welsh http://www.saysomethinginwelsh.com/ ) o Fanceinion a hefyd Cymro alltud David Phillips o Derby.
Heddiw (Dydd Sul) dan ni wedi bod yn arbrofi efo rysáit Figan ar gyfer Pica ar y Maen, a rhaid i mi ddweud bod y canlyniad yn dderbyniol iawn.