Sunday 7 December 2008

Bore Coffi Mis Rhagfyr

Daeth wyth aelod o Gymdeithas Cymry Nottingham at ei gilydd ar gyfer bore coffi 'popeth yn Gymraeg' misol y gymdeithas yn Nhŷ Beryl yn ardal Chilwell. Roedd pawb yn sgwrsio yn braf a chawson ni ddewis eang o gacennau, bisgedi a phethau da i fwyta. Cawson ni syrpreis bach hyfryd hefyd wrth weld Siriol yn cyrraedd yn syth ar ôl dod yn ôl o Efrog Newydd. Roedd ganddi hi fedalau sy wedi cael eu gwobrwyo i'w hewythr hi, sef Gareth Jones a oedd marw o dan amgylchiadau amheus iawn yn y Wcráin yn y tridegau o'r ganrif diweddaf.
( Gwelir safle we Siriol Colley am y hanes i gyd. http://www.margaretcolley.co.uk/ ) Roedd pawb yn edrych ymlaen at barti Nadolig y gymdeithas ar y degfed o Ragfyr a'r gwasanaeth carolau dwyieithog sy'n digwydd yng Nghanol Nottingham ar y 14-12-08, mae'r dau digwiddiad yn cael eu cynnal yn Castlegate United Reformed Church Hall, Chaucer Street, Nottingham NG1 5JT

Saturday 11 October 2008

Bore Coffi Misol Cymry Nottingham 3-10-08


Cawson ni groeso arbennig o gynnes yn Nhŷ Hywel yn ardal West Bridgeford. Daeth nifer dda o'r aelodaeth tua 10 i gyd. Wnaethon ni fwynhau’r pica ar y maen oedd wedi cael eu gwneud gan Hywel a'r coffi a the hefyd! Roedd pawb yn sgwrsio'n braf ac wrth fynd adre cawson ni gynnig bag yr un o afalau o'r coedyn yn ardd Hywel. Diolch o galon i Hywel.

Sunday 28 September 2008

Ers dod yn ol o'r Eisteddfod yr ydw i wedi bod yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan.
Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd.

Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.
Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!

Monday 11 August 2008

Hanner Eisteddfod Genedlaethol

Mi wnes i ddechrau swydd newydd yn Bakewell ar ddydd Gwener 1af Awst, felly roedd rhaid i mi fod yn fodlon efo gwylio’r digwyddiadau’r penwythnos cyntaf yr Eisteddfod a'r dydd Llun a Dydd Mawrth cyntaf ar S4C. Mi es i i lawr i Gaerdydd ar gyfer ail hanner yr wythnos ar ddydd Mercher. Roedd y daith digon hawdd gan nad oedd gormod o gerbydau ar y brif ffordd. Wnaethon ni, sef Marilyn a finnau, aros mewn gwely a brecwast yn Llanilltud Fawr am bedair noson. Cyn mynd i'r eisteddfod roedd rhaid picio draw i draeth Llanilltud er mwyn cael gweld Mor Hafren. Ar y bore wedyn roedd hi'n digon haws dal trên i Gaerdydd er mwyn cyrraedd maes Yr eisteddfod. Er gwaetha glaw trwm ar y dydd Sadwrn olaf rhaid i mi ddweud taw ar y cyfan cawson ni amser digon braf. Un peth gwych ar ddydd Llun oedd buddugoliaeth Telynau Cwm Dderwent yn y gystadleuaeth Werinol. Gwelir http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2008/sites/canlyniadau/ a http://www.thelittlewelshshop.co.uk/. Mi wnes i gwrdd â llwyth o hen gyfeillion, sef cyn cydweithwyr o Fenter Iaith Abertawe, a ffrindiau di-ri o wahanol cyrsiau Cymraeg dros y blynyddoedd, fel Malcolm o Gwmgaer sy wedi rhannu sawl Cwrs ‘Dehongli-Cymru' yn Aberystwyth, William Thomas ( llun ar y dde, mae William yn sefyll yn y canol) sy'n dod o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol, ond sy wedi byw yn Llundain am dros 40 mlynydd. Beth bynnag roedd safon y canu corawl yn yr Eisteddfod cystal ag erioed. Pan o’n i’n yno ges i air bach efo fy ffrind Padi, gwelir fideo islaw. Wnes i gymryd y gyfle i brynnu sawl crys-t Cymraeg ar stondin Cowbois, gan gynnwys ' Trafferth Mewn Tafarn'. Mi ges i gyfle i wrando ar ddarn o Ddyddiadur y dyn dŵad gan Dafydd Hughes yn y babell Llen, a hefyd i wrando ar ddarlith am grefft y Cyfarwyddwr bore dydd Iau ym Mhabell y Cymdeithasau.
Rŵan ydw i wedi cyrraedd Swydd Derby yn ddiogel ac yn edrych ymlaen yn barod at yr Eisteddfod nesa, sef Y Bala 2009, gan obeithio cael cystal amser yno, ond heb y holl law.
Mae'na un stori bach arall, sef bod Siriol Colley, Llywydd Cymdeithas Cymry Nottingham wedi sgwennu erthygl yn rhif 47 o'r cylchgrawn Golwg. Gwelir http://www.golwg.com/

Thursday 26 June 2008

Cuddio rhag y glaw 21 Mehefin 2008

Unwaith eto mae'na lawer o ddigwyddiadau Cymraeg wedi digwydd yr wythnos hon yn ardal Nottingham a Derby. Ar ddydd Sadwrn diweddar roedd Cymdeithas Cymry Nottingham yn cwrdd yn Nhŷ Dr Siriol Colley, Llywydd y Gymdeithas, ar gyfer parti gardd, ond roedd y tywydd mor wael wnaethon ni'n cwrdd yn Nhŷ Siriol yn hytrach na'r Ardd. Roedd nifer da o bobl yno, gan gynnwys teulu Siriol, ag ugain aelod o'r gymdeithas. Gwelir llunia.
Pnawn dydd Llun cafodd Gwynne Davies a'r Gymdeithas Nottingham sylw ar raglen Wedi 3. Roedd Alwyn Humphries wedi ymweld â'r Gymdeithas Nottingham i roi tlws Halen Y Ddaear i Gwynne am ei holl waith efo'r Gymdeithas dros y blynyddoedd.

Ar fore dydd Mawrth es i draw i gyfarfod y grŵp Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Yr wythnos yma wnaeth yr aelodau trafod beth roedden nhw wedi gwneud dros yr wythnos gynt, wedyn chwarae gem Scrabble yn y Gymraeg a chael paned o de neu goffi. Roedd digon o amser ar ôl i wneud dau glip fideo. Y cyntaf efo Dr Siriol Colley, y llall efo Allan Child. Gwelir clipiau islaw. Wnaeth pawb mwynhau’r fore. Yn anffodus does dim cyfarfod eto tan Fis Medi. Ond mi fydd pawb yn brysur, siwr o fod, dros yr haf.
Mi fydd aelodau o Gymdeithas Cymry Nottingham a Chymdeithas Cymraeg Derby yn mynd draw mewn bws i Langollan ar gyfer yr Eisteddfod Rhyngwladol.







Tuesday 17 June 2008

Elin Merriman, Athrawes Dosbarth Cymraeg Belper

Heddiw yr ydw i wedi cwrdd ag Elin Merriman, athrawes y dosbarth Cymraeg WEA yn Belper i wneud cyfweliad. Mae Elin yn dod o Swydd Derby, ond mae ei theulu hi'n dod o Gymry yn wreiddiol. Cafodd Elin ei magu yn Milford. Mae ei thad hi yn Gymro di-gymraeg, felly cafodd hi mo'r cyfle i ddysgu'r iaith pan oedd hi'n tyfu. Felly pan oedd hi'n 18 oed, aeth hi i Lanbedr i ddysgu'r iaith Gymraeg ac wedyn i Aberystwyth er mwyn gwneud gradd Cymraeg. Ar ôl graddio daeth hi'n ôl i Belper i fyw ac i weithio.

Sunday 15 June 2008

Cerddoriaeth Gymreig a Chymraeg yn Swydd Derby

Cynhaliwyd cyngerdd delyn yn Neuadd Leeke, Kings Langley, Swydd Derby ar bnawn Sul 15 o Fehefin. Cafodd y cyngerdd ei threfnu gan Helen Elisabeth Naylor, Cymraes, athrawes a thelynores o fri efo nifer sylweddol o ddisgyblion yn y ardal. Wnaeth disgyblion Helen cystadlu yn y Genedlaethol y llynedd. Mae gan Helen busnes ar lein, gwelir http://www.thelittlewelshshop.co.uk/ . Hefyd mae gan Helen uchelgais i sefydlu aelwyd o'r Urdd ac efallai i gynnal Eisteddfod leol yn Swydd Derby. Roedd y cyngerdd yn llwyddiannus iawn, a chafodd sawl cân Cymraeg ei ganu, sef Sua Gân, a Migildi Magildi i enwi dim ond dwy. Dyma glip fideo o Helen a'i disgyblion yn perfformio.

Mae pethau eraill ar y gweill, sef cynlluniau Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby i gynnal y bedwaredd Ysgol Undydd Cymraeg Derby ar ddydd Sadwrn 27 o Fedi. Mae'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby wedi bod yn boblogaidd iawn ers 2005. 


Friday 6 June 2008

Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham 6-6-08

Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham 6-6-08.

Cynhaliwyd cyfarfod misol grŵp Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham yn West Bridgeford, Nottingham ar fore dydd Gwener 6ed Mehefin. Cafodd pawb amser da yn sgwrsio ac yn mwynhau cacennau cartrefol Beti.





Yn y dechreuad

Mae'r blog yma wedi cael ei greu er mwyn cael gofod i arddangos rhai o'r pethau Cymreig a Chymraeg sy'n mynd ymlaen yng nghanolbarth Lloegr. Dewch yn ôl yn fuan i weld lluniau, clipiau fideo ac erthyglau diddorol.
JPS