Thursday 26 June 2008

Cuddio rhag y glaw 21 Mehefin 2008

Unwaith eto mae'na lawer o ddigwyddiadau Cymraeg wedi digwydd yr wythnos hon yn ardal Nottingham a Derby. Ar ddydd Sadwrn diweddar roedd Cymdeithas Cymry Nottingham yn cwrdd yn Nhŷ Dr Siriol Colley, Llywydd y Gymdeithas, ar gyfer parti gardd, ond roedd y tywydd mor wael wnaethon ni'n cwrdd yn Nhŷ Siriol yn hytrach na'r Ardd. Roedd nifer da o bobl yno, gan gynnwys teulu Siriol, ag ugain aelod o'r gymdeithas. Gwelir llunia.
Pnawn dydd Llun cafodd Gwynne Davies a'r Gymdeithas Nottingham sylw ar raglen Wedi 3. Roedd Alwyn Humphries wedi ymweld â'r Gymdeithas Nottingham i roi tlws Halen Y Ddaear i Gwynne am ei holl waith efo'r Gymdeithas dros y blynyddoedd.

Ar fore dydd Mawrth es i draw i gyfarfod y grŵp Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Yr wythnos yma wnaeth yr aelodau trafod beth roedden nhw wedi gwneud dros yr wythnos gynt, wedyn chwarae gem Scrabble yn y Gymraeg a chael paned o de neu goffi. Roedd digon o amser ar ôl i wneud dau glip fideo. Y cyntaf efo Dr Siriol Colley, y llall efo Allan Child. Gwelir clipiau islaw. Wnaeth pawb mwynhau’r fore. Yn anffodus does dim cyfarfod eto tan Fis Medi. Ond mi fydd pawb yn brysur, siwr o fod, dros yr haf.
Mi fydd aelodau o Gymdeithas Cymry Nottingham a Chymdeithas Cymraeg Derby yn mynd draw mewn bws i Langollan ar gyfer yr Eisteddfod Rhyngwladol.







1 comment:

Emma Reese said...

Mae gen ti syniad da, Jonathan. Gwych cael clywed dysgwyr eraill yn sirad Cymraeg.