
Cynhaliwyd cyngerdd delyn yn Neuadd Leeke, Kings Langley, Swydd Derby ar bnawn Sul 15 o Fehefin. Cafodd y cyngerdd ei threfnu gan Helen Elisabeth Naylor, Cymraes, athrawes a thelynores o fri efo nifer sylweddol o ddisgyblion yn y ardal. Wnaeth disgyblion Helen cystadlu yn y Genedlaethol y llynedd. Mae gan Helen busnes ar lein, gwelir
http://www.thelittlewelshshop.co.uk/ . Hefyd mae gan Helen uchelgais i sefydlu aelwyd o'r Urdd ac efallai i gynnal Eisteddfod leol yn Swydd Derby. Roedd y cyngerdd yn llwyddiannus iawn, a chafodd sawl cân Cymraeg ei ganu, sef
Sua Gân, a
Migildi Magildi i enwi dim ond dwy. Dyma glip fideo o Helen a'i disgyblion yn perfformio.
Mae pethau eraill ar y gweill, sef cynlluniau Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby i gynnal y bedwaredd Ysgol Undydd Cymraeg Derby ar ddydd Sadwrn 27 o Fedi. Mae'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby wedi bod yn boblogaidd iawn ers 2005.
No comments:
Post a Comment