Sunday 8 August 2010

Canu emynau dros 60 oed

Llongyfarchiadau i Gwynne Davies am fentro yn y gystadleuaeth Canu Emyn i bobl dros 60.
Yn anffodus cafodd Gwynne dim cyrraedd y llwyfan y tro'ma. Blwyddyn nesa yn Wrecsam 'te?
Mi gawson ni dipyn o hwyl ar Faes y Brifwyl beth bynnag. Roedd sawl un o Nottingham yno, Gwynne a Marilyn, Steffan a Joella oedd yn gwneud gwaith clodwiw ar ran Maes D.

Friday 2 July 2010

Cartref



Does un lle yn debyg i gartref! Ac yn bendant cawson ni croeso cynnes yn Nhŷ Gladys 'Morgan'. Dydy Morgan dim cyfenw go iawn Gladys, ond dyna beth oedd Gwynne yn awgrymu ar ein hymweliad tro diweddaf pan welon ni y ceir Morgan sgleiniog wedi parcio wrth ochr y tŷ.
Beth bynnag dim ond 9 ohonon ni oedd yn bresennol ar fore Dydd Gwener yr ail o Orffennaf. Ond roedd y sgwrs mor ddifyr fel arfer ac roedd y tywydd yn ddymunol iawn. Dim gormod o wres a dim gormod o law chwaith. Cawson ni Chwibdaith o gwmpas yr ardd cefn efo ei gŵr hi cyn mynd am sesiwn paparaziadd o flaen y tŷ i gael tynnu lluniau ffotograff. Diolch o galon i Gladys am ei lletygarwch hi.

Friday 4 June 2010

Braf yn yr haf!


Cafwyd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol ei gynnal yn Nhŷ Beti yn ardal West Bridgford, Nottingham ar fore Dydd Gwener y 4ydd o Fehefin.
Roedd 13 aelodau o Gymdeithas Cymry Nottingham yn bresennol a chawson ni wledd o bethau melys megis cacennau, bisgedi a digonedd o de a choffi. Beth oedd yn rhagorol oedd y cyfle i eistedd yn yr ardd i fwynhau’r awyr cynnes a'r heulwen.
Yn union fel arfer cawsom sgwrs ddifyr, ond uchel bwnt y bore, heb amheuaf oedd y chwibdaith o amgylch gardd cefn y tŷ. Mae Beti yn gweithio yn galed yn cadw'r ardd efo lawnt a gwelâu blodau hardd ond hefyd gwyliau lysiau a hyd yn oed perllan fechan ar waelod yr ardd.
Petawn ni i gyd yn gallu creu'r math campwaith! Diolch i Beti am ei lletygarwch hi!

Friday 14 May 2010

Howell Price ar radio Cymru

Cafodd Howell Price ei gyfweld ar Radio Cymru ar ddydd Iau. Roedd o'n adolygu'r ffilm newydd Robin Hood ar raglen Nia.
www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00sbpb4/Nia_Roberts_13_05_2010/
Mae Howell yn mynychu'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg sy'n digwydd yn fisol yn Nottingham.

Sunday 9 May 2010

Pica ar y Maen


Mi ges i benwythnos diddorol iawn dros y Sul. Ar y Dydd Gwener gyrrais i draw i Nottingham i ymuno a chriw'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Cymdeithas Cymry Nottingham. Roedd 10 o bobl yn bresennol yng nghartref Dafydd a Dilys Hughes. Cawson ni awr a hanner o sgwrs ddifyr ac wrth i mi adael ces i nes neges tecs oddi wrth fy ngwraig i ffonio Radio Cymru yng Nghaerdydd. O ganlyniad i'r sgwrs mi fydd aelodau o'r Gymdeithas yn cael eu cyfweld ar Radio Cymru cyn bo hir. Felly mi wna i son mwy am hynny yn y bennod nesa.
Ar Ddydd Sadwrn es i draw i Derby ar gyfer y Gweithdy Cymraeg Misol. Wnaeth Elin Merriman y tiwtor jobyn go dda o arwain y sesiwn ac ymhlith yr wyth o bobl yno roedd 'Ifan' sy'n aelod o SSIW (Say Something in Welsh http://www.saysomethinginwelsh.com/ ) o Fanceinion a hefyd Cymro alltud David Phillips o Derby.
Heddiw (Dydd Sul) dan ni wedi bod yn arbrofi efo rysáit Figan ar gyfer Pica ar y Maen, a rhaid i mi ddweud bod y canlyniad yn dderbyniol iawn.

Friday 5 March 2010

Bore Coffi popeth yn Gymraeg Mis Mawrth



Wnaeth aelodau Cymdeithas Cymry Nottingham cwrdd yn Nhŷ Gwynne Davies yn Beeston, Nottingham ar gyfer y Bore Coffi Popeth Yn Gymraeg Mis Mawrth. Cawson ein difyrru am 15 muned cyn y Bore Coffi gan aelodau Côr y Gymdeithas yn ymarfer ar gyfer y Gymanfa Ganu sy'n mynd i gael ei chynnal ar y 14 o Fawrth.
Yn ystod y bore cawson ddigon o gyfle i sgwrsio, cyn i Dewi Morris adrodd dipyn o hanes Llen Gwerin Meirionydd. Hefyd cawson ni gweld hen gopi o Daith Y Pererin sy'n bia i Wynne Davies. Mis nesa mi fydd y cyfarfod ar yr ail Ddydd Gwener ym Mis Ebrill.

Monday 15 February 2010

Cadw Cymreictod yn fyw


Mae dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac ambell un Cymro alltud yn cwyno eu bod hi'n anodd cadw Cymreictod yn fyw y tu draw i glawdd Offa ond dros y pythefnos diweddaf yr ydw i wedi cael y cyfle i fynychu pump o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, sef 1.) Cyfarfod misol Bore Coffi Cymdeithas Nottingham, 2.) Cyfarfod Sadwrn Siarad yng nghanolfan Garddio Holt, Sir Wrexham, 3.) Cyfarfod wythnosol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, 4.) noson yn gwylio ffilm Cymraeg yn Swydd Derby efo ffrindiau, 5.) Gweithdai Cymraeg Misol y Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Felly os oes rhywun yn fodlon teithio mae hi'n ddigon posib defnyddio'r iaith yn helaeth.

Ond mi ddylwn i son dipyn bach mwy am y manylion rhai o'r gyfarfodydd uchod.
Bore dydd Gwener gyntaf y mis oedd hi, felly a dyma fi'n gyrru'r car draw i dŷ Cathryn yn Keyworth ger Nottingham. Ar y ffordd yno mi welais enw lôn cefn gwlad sef Pendock Lane. Yn ôl geiriadur enwau lleoedd Prifysgol Rhydychen gair o'r Gymraeg yw Pendock. Mae Pendock yn ardal Worcester mae'n debyg. Wn i ddim os oes enw o'r math yn Swydd Nottingham. Ond mae'r ystyr yw 'barley field on a hill'. Addas iawn wrth feddwl am y dirwedd o gwmpas Keyworth a hefyd am y ffaith bod sawl un Cymro a Chymraes yn byw gerllaw.Beth bynnag, roedd hi'n fore cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg cymdeithas Nottingham ac fel arfer roedd hi'n llwyddiannus dros ben efo 13 ohonon ni'n bresennol (3 oedd wedi dysgu a 10 o Gymry alltud).Mi wnes i ddod a hen gopïau o'r Cymro i’r cyfarfod, ac roedden nhw'n eithaf poblogaidd. (Gwelir llun uwchben efo Yvonne, Joella a Dafydd yn darllen y Cymro). Mi ges i sgwrs ddiddorol iawn efo'r mab ieuengaf (Lewis) o'r teulu sydd yn cael eu disgrifio yn y nofel a enillodd y fedal rhyddiaith yn ystod Eisteddfod 2002 sef O! tyn y Gorchudd gan Angharad Price. Mae o’n byw yn Bramcote ar ôl ymddeol ond yn aelod o’r Gymdeithas yn Nottingham ac yn hapus iawn i gael dod i’r cyfarfodydd Bore Coffi. Hefyd wnaeth Beti a Beryl adrodd cerdd Cymraeg. Syth wedyn es i nôl i Belper i gwrdd â Marilyn (fy annwyl wraig) cyn gyrru draw efo hi i Swydd Caer am y penwythnos. Ar y Bore Sadwrn aeth y ddau ohonon ni i bentref Holt i gwrdd â grŵp Sadwrn Siarad sydd yn cyfarfod yn fisol yn y Canolfan Garddio yno. Roedd hi'n niwlog trwy'r dydd heb fawr o haul i'w weld. Wedyn mi es i draw i Wrexham i grwydro dipyn yn y dre gan gynnwys ymweliad i Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl. Mi nes i brynu sawl llyfr yn WH Smiths a hefyd cylchgronau Cymraeg cyn gyrru yn ôl trwy’r niwl a oedd heb ddiflannu i gynhesrwydd tŷ fy rhieni yn Tarporley. Daethon ni yn ôl i Belper ar y Sul. Bydd rhaid i Marilyn druan mynd yn ôl i waith yfory, ond mae gen i wythnos o wyliau olaf y flwyddyn ac felly wythnos o ryddid. Tydi bywyd yn braf ond ydy?



Friday 8 January 2010

Blwyddyn newydd dda 2010

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn Fore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham yn Nhŷ Siriol Colley yn ardal Bramcote. Er gwaetha’r tywydd dychrynllyd o oer efo ia ar y palmentydd a thymheredd o dan y rhew pwnt daeth 10 o bobl i'r digwyddiad.
Cawson ddigonedd o de, coffi a bisgedi a digonedd o sgwrsio.
Wnaeth Siriol cyflwyno copi i bawb presennol o bamffled am fywyd Annie Gwen Jones, Nain i Siriol, yn Rwsia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sef 'Life on the Steppes of Rwsia 1889 to 1892' a wnaeth Viv darllen pytiau tymhorol o waith Twm Elias 'Tro trwy'r tymhorau'.
Wnaeth pawb mwynhau'r bore ac yr ydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at gyfarfod nesa ym Mis Byr.
Os oes bobl sy'n darllen y pennod yma eisiau ymuno a'r grwp mi ddylen nhw'n gysylltu trwy mynd at safle we Cymdeithas Cymry Nottingham
(gwelir http://www.devamedia.co.uk/cymdeithas/nottingham/)