Sunday 5 July 2009

Parti ardd, noson allan ar y dre, a hwyl ar yr afon Trent



Parti ardd, Noson Cinio popeth yn Gymraeg ac afon daith ar yr afon Trent

Roedd digonedd o'r 'pethau' yn y canolbarth dros y mis diweddaf. Yn gyntaf wnaeth Gill Williams aelod o Gymdeithas Gymreig Derby trefnu parti ardd ar bnawn Dydd Sul 21 o Fehefin i godi arian dros y Gymdeithas a hefyd dros y Capel Cymraeg. Roedd hi'n bnawn hwylus iawn gyda thua 30 - 40 o bobl yn bresennol dros y prynhawn. Roedd Gill yn lwcus efo'r tywydd hefyd roedd hi'n sych a heulog heb fod yn rhy boeth.

Ar nos Wener 26 o Fehefin wnaeth 4 ohonon ni ( y to ifanc) sef Elin, Rhian a Joella a finnau cwrdd am bryd o fwyd yn Pizza Express ger yr eglwys Gadeiriol Derby. Yr ydyn ni'n bwriadu gwneud yr un peth eto bob 4-6 wythnos.


Roedd grŵp mwy o faint ar yr afon daith ar fore Dydd Gwener gyntaf o Orffennaf. Wnaethon ni ymuno a'r cwch 'Nottingham Princess' wrth Trent Bridge, ac wedyn cawson ni daith tair awr o hyd ar yr afon. Roedd nifer arall o rwpia yn bresennol ond cawson ni sgwrs braf yn yr hen iaith dros ginio cyn i'r 'adloniant' dechrau, sef cerddoriaeth swnllyd sy wedi rhoi taw ar y siarad yn syth. Er gwaethaf hynny cawson ni amser da, a diolch i Viv Harris am drefnu'r daith.

1 comment:

Viv said...

Ie, roedd ein gwibdaeth ar y Trent ar ffwrdd y Nottingham Princess llawe o hwyl ynde!

A beth am y Steddfod?
Da oedd darllen hanes dy Eisteddfod Jonathan ar dy blog di, a hefyd dy weld ti yn Y Babell Lên wedi’r Hywel Teifi darlith Darwin.
Cafodd Gwynne a finnau diwrnod anhygoel o dda a chyrhaeddon ni nôl yn Nottingham 1030 yr hwyr. Aethon ni dros y Berwyn ar y ffordd i Fala. (A5/B4396/B4391). Gwefr mawr i mi oedd mynd dros y Berwyn ar ôl gwylio’r cyfres Dai Jones Llanilar Cefn Gwlad yn mynd o gwmpas ffermydd y Berwyn – grwt fferm o’n i wrth gwrs!
P’run bynnag, dyma ‘4x4 open top pic up tryc’ yn rhwystro’r ffordd a wedyn praidd mawr o ddefaid yn gwthio heibio car Gwynne.

Dyma’r ffermwr yn dweud wrth Gwynne allan ffenest ei 4x4, “Sorry to have held you up”.

“Popeth yn iawn”, meddai Gwynne, “Dim ond mynd i’r Eisteddfod yr ydym ni”.

“Carwn i ddod gyda chi!” gwenodd y ffermwr tra’n mynd yn ffwl pelt gyda ei ddefaid ar hyd ffordd gul y Berwyn.
Gwych meddyliais i.
Hwyl fawr,
Viv