Sunday 9 May 2010

Pica ar y Maen


Mi ges i benwythnos diddorol iawn dros y Sul. Ar y Dydd Gwener gyrrais i draw i Nottingham i ymuno a chriw'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Cymdeithas Cymry Nottingham. Roedd 10 o bobl yn bresennol yng nghartref Dafydd a Dilys Hughes. Cawson ni awr a hanner o sgwrs ddifyr ac wrth i mi adael ces i nes neges tecs oddi wrth fy ngwraig i ffonio Radio Cymru yng Nghaerdydd. O ganlyniad i'r sgwrs mi fydd aelodau o'r Gymdeithas yn cael eu cyfweld ar Radio Cymru cyn bo hir. Felly mi wna i son mwy am hynny yn y bennod nesa.
Ar Ddydd Sadwrn es i draw i Derby ar gyfer y Gweithdy Cymraeg Misol. Wnaeth Elin Merriman y tiwtor jobyn go dda o arwain y sesiwn ac ymhlith yr wyth o bobl yno roedd 'Ifan' sy'n aelod o SSIW (Say Something in Welsh http://www.saysomethinginwelsh.com/ ) o Fanceinion a hefyd Cymro alltud David Phillips o Derby.
Heddiw (Dydd Sul) dan ni wedi bod yn arbrofi efo rysáit Figan ar gyfer Pica ar y Maen, a rhaid i mi ddweud bod y canlyniad yn dderbyniol iawn.

4 comments:

Viv said...

Duolch am y blog diweddarach yma Jonathan. Mae'n odidog fel arfer! Viv

Viv said...

Diolch am dy blog, sy'n odidog fel arfer Jonathan.
Am y tro,
Da bo

Viv said...

Sori! Meddyliais mod i wedi colli'r un cyntaf gyda camdeipio 'Diolch'!!!
Viv

Corndolly said...

Wyt ti eisiau rhannu'r rysáit gyda ni plîs?