Monday 15 February 2010

Cadw Cymreictod yn fyw


Mae dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac ambell un Cymro alltud yn cwyno eu bod hi'n anodd cadw Cymreictod yn fyw y tu draw i glawdd Offa ond dros y pythefnos diweddaf yr ydw i wedi cael y cyfle i fynychu pump o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, sef 1.) Cyfarfod misol Bore Coffi Cymdeithas Nottingham, 2.) Cyfarfod Sadwrn Siarad yng nghanolfan Garddio Holt, Sir Wrexham, 3.) Cyfarfod wythnosol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, 4.) noson yn gwylio ffilm Cymraeg yn Swydd Derby efo ffrindiau, 5.) Gweithdai Cymraeg Misol y Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Felly os oes rhywun yn fodlon teithio mae hi'n ddigon posib defnyddio'r iaith yn helaeth.

Ond mi ddylwn i son dipyn bach mwy am y manylion rhai o'r gyfarfodydd uchod.
Bore dydd Gwener gyntaf y mis oedd hi, felly a dyma fi'n gyrru'r car draw i dŷ Cathryn yn Keyworth ger Nottingham. Ar y ffordd yno mi welais enw lôn cefn gwlad sef Pendock Lane. Yn ôl geiriadur enwau lleoedd Prifysgol Rhydychen gair o'r Gymraeg yw Pendock. Mae Pendock yn ardal Worcester mae'n debyg. Wn i ddim os oes enw o'r math yn Swydd Nottingham. Ond mae'r ystyr yw 'barley field on a hill'. Addas iawn wrth feddwl am y dirwedd o gwmpas Keyworth a hefyd am y ffaith bod sawl un Cymro a Chymraes yn byw gerllaw.Beth bynnag, roedd hi'n fore cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg cymdeithas Nottingham ac fel arfer roedd hi'n llwyddiannus dros ben efo 13 ohonon ni'n bresennol (3 oedd wedi dysgu a 10 o Gymry alltud).Mi wnes i ddod a hen gopïau o'r Cymro i’r cyfarfod, ac roedden nhw'n eithaf poblogaidd. (Gwelir llun uwchben efo Yvonne, Joella a Dafydd yn darllen y Cymro). Mi ges i sgwrs ddiddorol iawn efo'r mab ieuengaf (Lewis) o'r teulu sydd yn cael eu disgrifio yn y nofel a enillodd y fedal rhyddiaith yn ystod Eisteddfod 2002 sef O! tyn y Gorchudd gan Angharad Price. Mae o’n byw yn Bramcote ar ôl ymddeol ond yn aelod o’r Gymdeithas yn Nottingham ac yn hapus iawn i gael dod i’r cyfarfodydd Bore Coffi. Hefyd wnaeth Beti a Beryl adrodd cerdd Cymraeg. Syth wedyn es i nôl i Belper i gwrdd â Marilyn (fy annwyl wraig) cyn gyrru draw efo hi i Swydd Caer am y penwythnos. Ar y Bore Sadwrn aeth y ddau ohonon ni i bentref Holt i gwrdd â grŵp Sadwrn Siarad sydd yn cyfarfod yn fisol yn y Canolfan Garddio yno. Roedd hi'n niwlog trwy'r dydd heb fawr o haul i'w weld. Wedyn mi es i draw i Wrexham i grwydro dipyn yn y dre gan gynnwys ymweliad i Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl. Mi nes i brynu sawl llyfr yn WH Smiths a hefyd cylchgronau Cymraeg cyn gyrru yn ôl trwy’r niwl a oedd heb ddiflannu i gynhesrwydd tŷ fy rhieni yn Tarporley. Daethon ni yn ôl i Belper ar y Sul. Bydd rhaid i Marilyn druan mynd yn ôl i waith yfory, ond mae gen i wythnos o wyliau olaf y flwyddyn ac felly wythnos o ryddid. Tydi bywyd yn braf ond ydy?



2 comments:

Viv said...

Diolch o galon Jonathan am y darn yma mor ddiddorol. Mae dy waith di ar ran yr iaith Cymraeg, yma yn Canolbarth Lloegr, yn werthfawr mas draw, mae'n rhaid i mi ddweud.
Pob hwyl,
Viv

Bill Chapman said...

Mae'r gwerslyfr cyntaf yn Gymraeg i ddysgu'r iaith ryngwladol Esperanto newydd ymddangos. Arweinlyfr 36 o dudalennau i Esperanto yw'r Mini-Cwrs, yn cynnwys deg o wersi, ymarferion darllen a geirfa. Y gŵr sy'n gyfrifol am y fenter yw Harry Barron o Fachynlleth.

Iaith yw Esperanto a gyflwywyd yn 1887 gan Dr. L.L. Zamenhof yn sgil blynyddoedd o waith. Cynigiodd ef Esperanto fel ail iaith a fyddai'n caniatáu i bobl sydd â gwahanol ieithoedd brodorol gyfathrebu, gan gadw eu hieithoedd a'u diwylliannau eu hunain yr un pryd. Nid yw Esperanto'n ceisio disodli'r un iaith arall; gweithreda fel iaith gyffredin. Cyhoeddwyd yr arweinlyfr bychan cyntaf i'r iaith yn 1910, a chyhoeddwyd geiriadur Cymraeg-Esperanto, Esperanto-Cymraeg yn 1985.

Mae'r Mini-Cwrs Esperanto ar gael am £1.50 a £0.50 cludiant gan Ffederasiwn Esperanto Cymru, 8 Vardre View, Deganwy, CONWY, LL31 9TE.

The first ever text book in Welsh designed to teach the international language Esperanto has just been published. The Mini-Cwrs is a 36 page guide to Esperanto, consisting of ten lessons, some reading exercises and a vocabulary. The man behind the new booklet is Harry Barron of Machynlleth.

Esperanto is a language introduced in 1887 by Dr. L.L. Zamenhof after years of development. He proposed Esperanto as a second language that would allow people who speak different native languages to communicate, yet at the same time retain their own languages and cultural identities. Esperanto doesn't replace anyone's language but simply serves as a common language. The first tiny guide to the language was published in 1910, and a two-way dictionary in Esperanto and Welsh was published in 1985.

Mini-Cwrs Esperanto is available for £1.50 plus £0.50 postage from Esperanto Federation of Wales, 8 Vardre View, Deganwy, CONWY, LL31 9TE.