Tuesday 24 March 2009

Cyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby Dydd Mawrth 23-3-09


Cawson ni dipyn o hwyl yn Derby'r bore'ma. Wnaeth un deg un o aelodau'r Cylch Dysgwr Cymraeg Derby cyfarfod yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr i gael paned, ac i adrodd hanesion, darllen dipyn, sgwrsio a chyfieithu o lyfr yn y gyfres Stori Sydyn, sef Y Jobyn Gorau yn y Byd gan Gary Slaymaker, y Barry Norman Cymreig.
Wedyn ces i'r cyfle i wneud cyfweliad fideo efo Dewi Morris sy wedi ymuno a'r grŵp yn ddiweddar. Mae Dewi yn dod o ardal Dolgellau yn wreiddiol, ond mae o wedi bod yn byw yn Derby ers 1964. Er gwaethaf hynny, mae o'n siarad yr hen iaith o hyd. Mae o'n gymorth mawr i aelodau oherwydd ei allu o i esbonio ystyr ymadroddion a hefyd i gywiro gwalltiau ynganu!
Mi fydd y grŵp yn cymryd brêc dros wyliau'r Pasg.

Mae Gareth Jones, aelod o'r grŵp sy'n byw yn ardal Clay Cross yn mynd i sefyll yr arholiad Defnyddio'r Gymraeg fel ail Iaith i Oedolion Safon Uwch ym mis Mehefin. Mae'r grŵp i gyd yn dymuno pob lwc i Gareth yn yr arholiad.


4 comments:

Petroc Gwersyllt said...

Da iawn cymru Derby, dwi'n dysgu Cymraeg ynLLundain ac mae angen grwp fel na arnom ni yma. Dyma fy mlogiau am Gymry Lloegr
http://draigwen.blogspot.com/
http://whitedragon.blogspot.com/

Petroc ap Seisyllt

Cymry'r Canolbarth said...

Diolch am eich ymateb. Mi wnai i rhoi cyfeiriad eich blogiau ar ein safle we. Gyda llaw ydych chi'n mynd i'r eisteddfod Genedlaethol yn y Bala?
Pob hwyl
Jonathan Simcock
http://derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/

Viv said...

Gwnes i fwynhau'r fidio yma o lawer iawn. A diolch i Dewi Morris am fod mor garedig am fy Nghymraeg! Dim ond dysgwr dw i cofiwch ond dw i'n joio bob munud yn ei dysgu. Mae'r sylw 'ma yn hwyr iawn achos problem efo fy cghyfrifiadur ers tro byd - roedd yn gwrthod derbyn fy sylwadau am ryw reswm, achos sothach yr oedden mae'n debyg. Ond wir i ti Jonathan - ti'n gwneud jobyn reit dda gyda'r blog yma a phopeth wyt ti'n gwneud gyda'r iaith y nefoedd - diolch achan.

Viv said...

Neis gweld Petroc Gwersyllt yma ynde! Da oedd darllen hanes dy Eistedfod ar Jonblog. A da hefyd i dy weld ti yn y Babell Lên wedi Hywel Teifi darlith Darwin.
Cafodd Gwynne a finnau diwrnod anhygoel o dda a chyrhaeddon ni nôl yn Nottingham 1030 y hwyr. Aethon dros y Berwyn ar y ffordd i Fala (A5/B4396/B4391). Gwefr mawr i mi oedd mynd dros y Berwyn ar ôl watchio'r cyfres Dai Jones Llanilar Cefn Gwlad yn mynd o gwmpas ffermydd y Berwyn. A dyma 4x4 pic up tryc yn rhwystro'r ffordd a wedyn praidd mawr o ddefaid yn gwthio heibio car Gwynne. Dyma'r ffwermwr yn dweud wrth Gwynne allan ei ffenest,
"Sorry to hold you up".
"Popeth yn iawn, meddai Gwynne, "Dim ond mynd i'r Steddfod yr ydym ni".
"Carwn i ddod gyda ti", gweiddodd y ffermwr tra'n mynd ar ei ffordd yn ffwl pelt gyda'r defaid i gyd. Gwych meddwn i.
Hwyl,
Viv