Cawson ni dipyn o hwyl yn Derby'r bore'ma. Wnaeth un deg un o aelodau'r Cylch Dysgwr Cymraeg Derby cyfarfod yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr i gael paned, ac i adrodd hanesion, darllen dipyn, sgwrsio a chyfieithu o lyfr yn y gyfres Stori Sydyn, sef Y Jobyn Gorau yn y Byd gan Gary Slaymaker, y Barry Norman Cymreig.
Wedyn ces i'r cyfle i wneud cyfweliad fideo efo Dewi Morris sy wedi ymuno a'r grŵp yn ddiweddar. Mae Dewi yn dod o ardal Dolgellau yn wreiddiol, ond mae o wedi bod yn byw yn Derby ers 1964. Er
gwaethaf hynny, mae o'n siarad yr hen iaith o hyd. Mae o'n gymorth mawr i aelodau oherwydd ei allu o i esbonio ystyr ymadroddion a hefyd i gywiro gwalltiau ynganu!
Mi fydd y grŵp yn cymryd brêc dros wyliau'r Pasg.
Mae Gareth Jones, aelod o'r grŵp sy'n byw yn ardal Clay Cross yn mynd i sefyll yr arholiad Defnyddio'r Gymraeg fel ail Iaith i Oedolion Safon Uwch ym mis Mehefin. Mae'r grŵp i gyd yn dymuno pob lwc i Gareth yn yr arholiad.