Tuesday, 31 March 2020
Sunday, 8 August 2010
Canu emynau dros 60 oed
Llongyfarchiadau i Gwynne Davies am fentro yn y gystadleuaeth Canu Emyn i bobl dros 60.
Yn anffodus cafodd Gwynne dim cyrraedd y llwyfan y tro'ma. Blwyddyn nesa yn Wrecsam 'te?
Mi gawson ni dipyn o hwyl ar Faes y Brifwyl beth bynnag. Roedd sawl un o Nottingham yno, Gwynne a Marilyn, Steffan a Joella oedd yn gwneud gwaith clodwiw ar ran Maes D.

Friday, 2 July 2010
Cartref

Does un lle yn debyg i gartref! Ac yn bendant cawson ni croeso cynnes yn Nhŷ Gladys 'Morgan'. Dydy Morgan dim cyfenw go iawn Gladys, ond dyna beth oedd Gwynne yn awgrymu ar ein hymweliad tro diweddaf pan welon ni y ceir Morgan sgleiniog wedi parcio wrth ochr y tŷ.
Beth bynnag dim ond 9 ohonon ni oedd yn bresennol ar fore Dydd Gwener yr ail o Orffennaf. Ond roedd y sgwrs mor ddifyr fel arfer ac roedd y tywydd yn ddymunol iawn. Dim gormod o wres a dim gormod o law chwaith. Cawson ni Chwibdaith o gwmpas yr ardd cefn efo ei gŵr hi cyn mynd am sesiwn paparaziadd o flaen y tŷ i gael tynnu lluniau ffotograff. Diolch o galon i Gladys am ei lletygarwch hi.

Friday, 4 June 2010
Braf yn yr haf!
Cafwyd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol ei gynnal yn Nhŷ Beti yn ardal West Bridgford, Nottingham ar fore Dydd Gwener y 4ydd o Fehefin.
Roedd 13 aelodau o Gymdeithas Cymry Nottingham yn bresennol a chawson ni wledd o bethau melys megis cacennau, bisgedi a digonedd o de a choffi. Beth oedd yn rhagorol oedd y cyfle i eistedd yn yr ardd i fwynhau’r awyr cynnes a'r heulwen.
Yn union fel arfer cawsom sgwrs ddifyr, ond uchel bwnt y bore, heb amheuaf oedd y chwibdaith o amgylch gardd cefn y tŷ. Mae Beti yn gweithio yn galed yn cadw'r ardd efo lawnt a gwelâu blodau hardd ond hefyd gwyliau lysiau a hyd yn oed perllan fechan ar waelod yr ardd.
Petawn ni i gyd yn gallu creu'r math campwaith! Diolch i Beti am ei lletygarwch hi!
Friday, 14 May 2010
Howell Price ar radio Cymru
Cafodd Howell Price ei gyfweld ar Radio Cymru ar ddydd Iau. Roedd o'n adolygu'r ffilm newydd Robin Hood ar raglen Nia.
www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00sbpb4/Nia_Roberts_13_05_2010/
Mae Howell yn mynychu'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg sy'n digwydd yn fisol yn Nottingham.
www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00sbpb4/Nia_Roberts_13_05_2010/
Mae Howell yn mynychu'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg sy'n digwydd yn fisol yn Nottingham.
Sunday, 9 May 2010
Pica ar y Maen

Mi ges i benwythnos diddorol iawn dros y Sul. Ar y Dydd Gwener gyrrais i draw i Nottingham i ymuno a chriw'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Cymdeithas Cymry Nottingham. Roedd 10 o bobl yn bresennol yng nghartref Dafydd a Dilys Hughes. Cawson ni awr a hanner o sgwrs ddifyr ac wrth i mi adael ces i nes neges tecs oddi wrth fy ngwraig i ffonio Radio Cymru yng Nghaerdydd. O ganlyniad i'r sgwrs mi fydd aelodau o'r Gymdeithas yn cael eu cyfweld ar Radio Cymru cyn bo hir. Felly mi wna i son mwy am hynny yn y bennod nesa.
Ar Ddydd Sadwrn es i draw i Derby ar gyfer y Gweithdy Cymraeg Misol. Wnaeth Elin Merriman y tiwtor jobyn go dda o arwain y sesiwn ac ymhlith yr wyth o bobl yno roedd 'Ifan' sy'n aelod o SSIW (Say Something in Welsh http://www.saysomethinginwelsh.com/ ) o Fanceinion a hefyd Cymro alltud David Phillips o Derby.
Heddiw (Dydd Sul) dan ni wedi bod yn arbrofi efo rysáit Figan ar gyfer Pica ar y Maen, a rhaid i mi ddweud bod y canlyniad yn dderbyniol iawn.
Ar Ddydd Sadwrn es i draw i Derby ar gyfer y Gweithdy Cymraeg Misol. Wnaeth Elin Merriman y tiwtor jobyn go dda o arwain y sesiwn ac ymhlith yr wyth o bobl yno roedd 'Ifan' sy'n aelod o SSIW (Say Something in Welsh http://www.saysomethinginwelsh.com/ ) o Fanceinion a hefyd Cymro alltud David Phillips o Derby.Heddiw (Dydd Sul) dan ni wedi bod yn arbrofi efo rysáit Figan ar gyfer Pica ar y Maen, a rhaid i mi ddweud bod y canlyniad yn dderbyniol iawn.
Friday, 5 March 2010
Bore Coffi popeth yn Gymraeg Mis Mawrth
Wnaeth aelodau Cymdeithas Cymry Nottingham cwrdd yn Nhŷ Gwynne Davies yn Beeston, Nottingham ar gyfer y Bore Coffi Popeth Yn Gymraeg Mis Mawrth. Cawson ein difyrru am 15 muned cyn y Bore Coffi gan aelodau Côr y Gymdeithas yn ymarfer ar gyfer y Gymanfa Ganu sy'n mynd i gael ei chynnal ar y 14 o Fawrth.
Yn ystod y bore cawson ddigon o gyfle i sgwrsio, cyn i Dewi Morris adrodd dipyn o hanes Llen Gwerin Meirionydd. Hefyd cawson ni gweld hen gopi o Daith Y Pererin sy'n bia i Wynne Davies. Mis nesa mi fydd y cyfarfod ar yr ail Ddydd Gwener ym Mis Ebrill.

Monday, 15 February 2010
Cadw Cymreictod yn fyw
Mae dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac ambell un Cymro alltud yn cwyno eu bod hi'n anodd cadw Cymreictod yn fyw y tu draw i glawdd Offa ond dros y pythefnos diweddaf yr ydw i wedi cael y cyfle i fynychu pump o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, sef 1.) Cyfarfod misol Bore Coffi Cymdeithas Nottingham, 2.) Cyfarfod Sadwrn Siarad yng nghanolfan Garddio Holt, Sir Wrexham, 3.) Cyfarfod wythnosol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, 4.) noson yn gwylio ffilm Cymraeg yn Swydd Derby efo ffrindiau, 5.) Gweithdai Cymraeg Misol y Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Felly os oes rhywun yn fodlon teithio mae hi'n ddigon posib defnyddio'r iaith yn helaeth.
Ond mi ddylwn i son dipyn bach mwy am y manylion rhai o'r gyfarfodydd uchod.
Bore dydd Gwener gyntaf y mis oedd hi, felly a dyma fi'n gyrru'r car draw i dŷ Cathryn yn Keyworth ger Nottingham. Ar y ffordd yno mi welais enw lôn cefn gwlad sef Pendock Lane. Yn ôl geiriadur enwau lleoedd Prifysgol Rhydychen gair o'r Gymraeg yw Pendock. Mae Pendock yn ardal Worcester mae'n debyg. Wn i ddim os oes enw o'r math yn Swydd Nottingham. Ond mae'r ystyr yw 'barley field on a hill'. Addas iawn wrth feddwl am y dirwedd o gwmpas Keyworth a hefyd am y ffaith bod sawl un Cymro a Chymraes yn byw gerllaw.Beth bynnag, roedd hi'n fore cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg cymdeithas Nottingham ac fel arfer roedd hi'n llwyddiannus dros ben efo 13 ohonon ni'n bresennol (3 oedd wedi dysgu a 10 o Gymry alltud).Mi wnes i ddod a hen gopïau o'r Cymro i’r cyfarfod, ac roedden nhw'n eithaf poblogaidd. (Gwelir llun uwchben efo Yvonne, Joella a Dafydd yn darllen y Cymro). Mi ges i sgwrs ddiddorol iawn efo'r mab ieuengaf (Lewis) o'r teulu sydd yn cael eu disgrifio yn y nofel a enillodd y fedal rhyddiaith yn ystod Eisteddfod 2002 sef O! tyn y Gorchudd gan Angharad Price. Mae o’n byw yn Bramcote ar ôl ymddeol ond yn aelod o’r Gymdeithas yn Nottingham ac yn hapus iawn i gael dod i’r cyfarfodydd Bore Coffi. Hefyd wnaeth Beti a Beryl adrodd cerdd Cymraeg. Syth wedyn es i nôl i Belper i gwrdd â Marilyn (fy annwyl wraig) cyn gyrru draw efo hi i Swydd Caer am y penwythnos. Ar y Bore Sadwrn aeth
y ddau ohonon ni i bentref Holt i gwrdd â grŵp Sadwrn Siarad sydd yn cyfarfod yn fisol yn y Canolfan Garddio yno. Roedd hi'n niwlog trwy'r dydd heb fawr o haul i'w weld. Wedyn mi es i draw i Wrexham i grwydro dipyn yn y dre gan gynnwys ymweliad i Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl. Mi nes i brynu sawl llyfr yn WH Smiths a hefyd cylchgronau Cymraeg cyn gyrru yn ôl trwy’r niwl a oedd heb ddiflannu i gynhesrwydd tŷ fy rhieni yn Tarporley. Daethon ni yn ôl i Belper ar y Sul. Bydd rhaid i Marilyn druan mynd yn ôl i waith yfory, ond mae gen i wythnos o wyliau olaf y flwyddyn ac felly wythnos o ryddid. Tydi bywyd yn braf ond ydy?
Friday, 8 January 2010
Blwyddyn newydd dda 2010
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn Fore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham yn Nhŷ Siriol Colley yn ardal Bramcote. Er gwaetha’r tywydd dychrynllyd o oer efo ia ar y palmentydd a thymheredd o dan y rhew pwnt daeth 10 o bobl i'r digwyddiad.
Cawson ddigonedd o de, coffi a bisgedi a digonedd o sgwrsio.
Wnaeth Siriol cyflwyno copi i bawb presennol o bamffled am fywyd Annie Gwen Jones, Nain i Siriol, yn Rwsia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sef 'Life on the Steppes of Rwsia 1889 to 1892' a wnaeth Viv darllen pytiau tymhorol o waith Twm Elias 'Tro trwy'r tymhorau'.
Wnaeth pawb mwynhau'r bore ac yr ydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at gyfarfod nesa ym Mis Byr.
Os oes bobl sy'n darllen y pennod yma eisiau ymuno a'r grwp mi ddylen nhw'n gysylltu trwy mynd at safle we Cymdeithas Cymry Nottingham
(gwelir http://www.devamedia.co.uk/cymdeithas/nottingham/)

Monday, 23 November 2009
Gweithdy Cymraeg 21-11-09
Cawson ni nifer barchus iawn o bobl yn y gweithdy Cymraeg bore dydd Sadwrn yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Derby. Cafodd pawb amser da ac roedd hi'n gyfle da i ymarfer yr hen iaith. Yr ydyn ni'n mynd ymlaen efo'r gweithdy misol ar ddydd Sadwrn 19-12-09 ac unwaith eto yn fisol yn ystod 2010. Mi fydd'na groeso cynnes i bawb sy'n dod!
Sunday, 4 October 2009
Bore Coffi popeth yn Gymraeg Nottingham ac Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2009
Penwythnos prysur yn Nottingham a Derby! Mi ges i fodd i fyw'r penwythnos yma, dau ddigwyddiad Cymreig a Chymraeg o fewn yr un penwythnos!
Yn gyntaf y cyfarfod misol Bore Coffi Popeth yn Gymraeg ar fore dydd Gwener, y tro 'ma yn Nhŷ Beryl yn Chilwell, roedd 12 ohonon ni, gan gynnwys tri o bobl newydd sbon sef Lewis Jones o Gymdeithas Cymry Nottingham, Yvonne Wilson yn enedigol o'r Gogledd, a Joella Price sy'n ferch ifanc enedigol o Bort Talbot ac yn astudio fel nyrs yn Ysbyty'r Brif Ysgol Nottingham (Gyda llaw mi fydd y bore coffi nesa yn nhŷ Howell a Maureen yn West Bridgford, dydd Gwener, 6ed Tachwedd).
Wedyn ar ddydd Sadwrn wnaeth 44 o bobl dod ynghyd ar gyfer y 5ed Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Rhaid dweud diolch yn fawr iawn i'n gwirfoddolwyr holl gan gynnwys Morfudd Benyon (diolch am eich cymorth gwerthfawr iawn yn y gegin!) Huw ac Ann Griffiths, Marianne a John Pritchard (sy'n aelod o'r Orsedd), Viv Harris a Beti Potter. Diolch hefyd i'n tiwtoriaid Elin Merriman ac Eileen Walker ac yn olaf i bawb sy wedi dod.
Mae'r cylch yn prysur drefnu 3 o Weithdy Cymraeg yn Derby, felly os oes diddordeb gyda phobl, mi ddylen nhw gysylltu â ni trwy'r manylion cysylltu ar ein gwefan ni, gwelir (www.derbywelshlearnerscircle.blogpot.com)

Sunday, 26 July 2009
Cwrs Undydd Basingstoke 2009
Sunday, 5 July 2009
Parti ardd, noson allan ar y dre, a hwyl ar yr afon Trent

Parti ardd, Noson Cinio popeth yn Gymraeg ac afon daith ar yr afon Trent
Roedd digonedd o'r 'pethau' yn y canolbarth dros y mis diweddaf. Yn gyntaf wnaeth Gill Williams aelod o Gymdeithas Gymreig Derby trefnu parti ardd ar bnawn Dydd Sul 21 o Fehefin i godi arian dros y Gymdeithas a hefyd dros y Capel Cymraeg. Roedd hi'n bnawn hwylus iawn gyda thua 30 - 40 o bobl yn bresennol dros y prynhawn. Roedd Gill yn lwcus efo'r tywydd hefyd roedd hi'n sych a heulog heb fod yn rhy boeth.
Ar nos Wener 26 o Fehefin wnaeth 4 ohonon ni ( y to ifanc) sef Elin, Rhian a Joella a finnau cwrdd am bryd o fwyd yn Pizza Express ger yr eglwys Gadeiriol Derby. Yr ydyn ni'n bwriadu gwneud yr un peth eto bob 4-6 wythnos.
Roedd grŵp mwy o faint ar yr afon daith ar fore Dydd Gwener gyntaf o Orffennaf. Wnaethon ni ymuno a'r cwch 'Nottingham Princess' wrth Trent Bridge, ac wedyn cawson ni daith tair awr o hyd ar yr afon. Roedd nifer arall o rwpia yn bresennol ond cawson ni sgwrs braf yn yr hen iaith dros ginio cyn i'r 'adloniant' dechrau, sef cerddoriaeth swnllyd sy wedi rhoi taw ar y siarad yn syth. Er gwaethaf hynny cawson ni amser da, a diolch i Viv Harris am drefnu'r daith.
Friday, 1 May 2009
Bore Coffi Popeth yn Gymraeg, Mai 2009
Cafodd aelodau Cymry Cymraeg y Gymdeithas Cymry Nottingham croeso arbennig o gynnes yn Nhŷ Gwladys yn West Bridgford, Nottingham ar Ddydd Gwener 1taf o Fai. Roedd 12 yn bresennol ac roedd arlwy haul o fisgedi, cacen, te a choffi ar gael. Wnaeth pawb sgwrsio'n braf am gyfnod o ddwy awr cyn daeth y cyfarfod i ben tua hanner dydd.
Mi fydd y cyfarfod nesa yn digwydd ym Mis Gorffennaf pan fydd y grŵp yn mwynhau afondaith ar gwch ar yr afon Trent. Mae pawb yn edrych ymlaen yn arw ac yn gobeithio am dywydd teg. Ar ôl hynny ni fydd cyfarfod bore coffi tan Fis Medi. Diolch yn fawr iawn i Gwladys am ei lletygarwch.

Tuesday, 24 March 2009
Cyfarfod Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby Dydd Mawrth 23-3-09
Cawson ni dipyn o hwyl yn Derby'r bore'ma. Wnaeth un deg un o aelodau'r Cylch Dysgwr Cymraeg Derby cyfarfod yn Nhŷ Cwrdd Y Crynwyr i gael paned, ac i adrodd hanesion, darllen dipyn, sgwrsio a chyfieithu o lyfr yn y gyfres Stori Sydyn, sef Y Jobyn Gorau yn y Byd gan Gary Slaymaker, y Barry Norman Cymreig.
Wedyn ces i'r cyfle i wneud cyfweliad fideo efo Dewi Morris sy wedi ymuno a'r grŵp yn ddiweddar. Mae Dewi yn dod o ardal Dolgellau yn wreiddiol, ond mae o wedi bod yn byw yn Derby ers 1964. Er
gwaethaf hynny, mae o'n siarad yr hen iaith o hyd. Mae o'n gymorth mawr i aelodau oherwydd ei allu o i esbonio ystyr ymadroddion a hefyd i gywiro gwalltiau ynganu!
Mi fydd y grŵp yn cymryd brêc dros wyliau'r Pasg.
Mae Gareth Jones, aelod o'r grŵp sy'n byw yn ardal Clay Cross yn mynd i sefyll yr arholiad Defnyddio'r Gymraeg fel ail Iaith i Oedolion Safon Uwch ym mis Mehefin. Mae'r grŵp i gyd yn dymuno pob lwc i Gareth yn yr arholiad.

Sunday, 8 March 2009
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a dathlu’r Iaith Gymraeg

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi a dathlu’r Iaith Gymraeg
Mi ges i dipyn o hwyl dros yr wythnos diwethaf, yn gyntaf ar fore ddydd Mawrth, wnaeth Jane aelod wedd
ol newydd o'r Cylch Dysgwyr Derby yn dod â Chacennau Cri yn ôl o Gaerdydd, digon i bawb presennol. Diolch i ti Jane! Wedyn wrth grwydro strydoedd Belper mi wnes i sylwi bod sawl arwydd o barch ymhlith trigolion Belper tuag at nawddsant Cymru. Roedd banner y Ddraig Goch yn chwifio ar ben polyn yn Nhardd Cymunedol Belper ger Tafarn y Talbot.
Mi ges i dipyn o hwyl dros yr wythnos diwethaf, yn gyntaf ar fore ddydd Mawrth, wnaeth Jane aelod wedd
Hefyd wrth gerdded adre heibio siop diodydd mi wnes i sylwi ar sioe'r ffenestr ffrynt efo baneri Draig Goch dros y lle a dewis eang
o Gwrw a Wisgi (Penderyn wrth gwrs) o Gymru.
Wedyn pan o'n i gerdded adre wnes i alw i weld Tŷ Kay, cyn aelod o Ddosbarth Cymraeg WEA Belper. Mae'na enw Cymraeg ar ei thŷ hi, sef Gardd Mair.
Bore Dydd Gwener es i draw i Nottingham unwaith eto, i ymuno a bore Coffi'r Gymdeithas roedd 12 ohonon ni'n bresennol, gan gynnwys Dewi Morris sy'n aelod newydd i'r grŵp.Cawson ni groeso arbennig o gynnes oddi wrth Gwynne Davies.
Dros y Sul mi wnes i fynd a'r wraig dros i Holt, pentre’ bach dros yr afon Dyfrdwy ble roedd Sesiwn Siarad yn digwydd. Wedyn roedd Marilyn wrth ei bodd yn siopa yng nghanol Wrexham. Yfory dw i'n ôl yn y gwaith. Rhaid ennill bywoliaeth ond oes!

Sunday, 22 February 2009
Bore Coffi Mis Bach 2009
Cawson ni groeso haul a chynnes yn Nhŷ Dilys a Dafydd yn Wollaton ar fore Dydd Gwener 19 o Chwefror.
Yn bresennol oedd Dilys a Dafydd wrth gwrs a hefyd Gwynne, Gwladys, Howell, Heulwen, Beryl, Beti, Siriol, Audrey, Jonathan, a Viv. Fel arfer roedd dewis eang o ddiodydd, cacennau a bisgedi. Mi fydd y cyfarfod nesa yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies ar y 6ed o Fawrth.

Sunday, 7 December 2008
Bore Coffi Mis Rhagfyr
Daeth wyth aelod o Gymdeithas Cymry Nottingham at ei gilydd ar gyfer bore coffi 'popeth yn Gymraeg' misol y gymdeithas yn Nhŷ Beryl yn ardal Chilwell. Roedd pawb yn sgwrsio yn braf a chawson ni ddewis eang o gacennau, bisgedi a phethau da i fwyta.
Cawson ni syrpreis bach hyfryd hefyd wrth weld Siriol yn cyrraedd yn syth ar ôl dod yn ôl o Efrog Newydd. Roedd ganddi hi fedalau sy wedi cael eu gwobrwyo i'w hewythr hi, sef Gareth Jones a oedd marw o dan amgylchiadau amheus iawn yn y Wcráin yn y tridegau o'r ganrif diweddaf.

( Gwelir safle we Siriol Colley am y hanes i gyd. http://www.margaretcolley.co.uk/ ) Roedd pawb yn edrych ymlaen at barti Nadolig y gymdeithas ar y degfed o Ragfyr a'r gwasanaeth carolau dwyieithog sy'n digwydd yng Nghanol Nottingham ar y 14-12-08, mae'r dau digwiddiad yn cael eu cynnal yn Castlegate United Reformed Church Hall, Chaucer Street, Nottingham NG1 5JT
Saturday, 11 October 2008
Bore Coffi Misol Cymry Nottingham 3-10-08
Cawson ni groeso arbennig o gynnes yn Nhŷ Hywel yn ardal West Bridgeford. Daeth nifer dda o'r aelodaeth tua 10 i gyd. Wnaethon ni fwynhau’r pica ar y maen oedd wedi cael eu gwneud gan Hywel a'r coffi a the hefyd! Roedd pawb yn sgwrsio'n braf ac wrth fynd adre cawson ni gynnig bag yr un o afalau o'r coedyn yn ardd Hywel. Diolch o galon i Hywel.
Sunday, 28 September 2008
Ers dod yn ol o'r Eisteddfod yr ydw i wedi bod yn nol yn y gwaith dw i wedi bod yn teithio o gwmpas cefn gwlad a phentrefi Swydd Derby yn ymweld â gwirfoddolwyr sy'n helpu rhedeg cymdeithasau gwirfoddol bychain sy'n gweithredu yn y trydydd sector, gwaith digon dymunol ar y cyfan.
Ar ddydd Gwener yr wythnos yma roeddwn i'n paratoi pob math o beth (arwyddion, ffurflenni cofrestru, bwyd, ac yn y blaen) ar gyfer yr Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Eleni roedden ni'n cynnal yr ysgol am y bedwaredd tro. Fel arfer roedd Elin Merriman yn athrawes i'r dechreuwyr pur, tra roedd Eileen Walker yn arwain y dosbarth canolradd.
Roedd y dosbarth profiadol yn cael tri sesiwn gwahanol, sef Viv Harris yn son am idiomau Cymraeg, Beti Potter yn siarad am ardal ei magwraeth hi, sef dyffryn Conwy. Gan gynnwys gwirfoddolwyr ac athrawon roedd 33 ohonon ni'n bresennol. Niferoedd digon iachus faswn i'n dweud. Ar ôl cinio aeth y grŵp profiadol i drafod sut i hybu'r Gymraeg ymhlith dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ochr yma i Glawdd Offa. Mae'n ymddangos bod'na sawl peth da ar y gweill. Mae'r dosbarthiadau WEA Cymraeg lleol wedi ailddechrau efo dosbarth i ddechreuwyr ac un arall i bobl ganolradd, mae'na si ar led am grŵp gwerthfawrogi barddoniaeth. Mae Elin Merriman yn gobeithio dechrau gweithdai misol dros benwythnosau ar gyfer dysgwyr yr iaith Cymraeg sy'n dysgu ar eu pennau eu hunan neu sy'n methu mynd i ddosbarth nos yn ystod yr wythnos. Hefyd roedd dipyn o drafod am ddechrau cyfarfod cymdeithasol misol mewn tafarndai yn yr ardal ar gyfer dysgwyr profiadol iawn a'r Cymry Cymraeg alltud.
Heddiw es i i gopa 'Alport Height' i ymlacio dipyn cyn paratoi am wythnos arall yn y gwaith. Roedd hi'n glir iawn i'r gogledd ac roeddwn i'n gallu gweld Kinder Scout ar y gorwel, peth braf iawn yw ymlacio ar ben bryn yng nghanol canolbarth Lloegr ar bnawn braf haf bach Mihangel fel heddiw!

Subscribe to:
Posts (Atom)