Sunday, 7 December 2008

Bore Coffi Mis Rhagfyr

Daeth wyth aelod o Gymdeithas Cymry Nottingham at ei gilydd ar gyfer bore coffi 'popeth yn Gymraeg' misol y gymdeithas yn Nhŷ Beryl yn ardal Chilwell. Roedd pawb yn sgwrsio yn braf a chawson ni ddewis eang o gacennau, bisgedi a phethau da i fwyta. Cawson ni syrpreis bach hyfryd hefyd wrth weld Siriol yn cyrraedd yn syth ar ôl dod yn ôl o Efrog Newydd. Roedd ganddi hi fedalau sy wedi cael eu gwobrwyo i'w hewythr hi, sef Gareth Jones a oedd marw o dan amgylchiadau amheus iawn yn y Wcráin yn y tridegau o'r ganrif diweddaf.
( Gwelir safle we Siriol Colley am y hanes i gyd. http://www.margaretcolley.co.uk/ ) Roedd pawb yn edrych ymlaen at barti Nadolig y gymdeithas ar y degfed o Ragfyr a'r gwasanaeth carolau dwyieithog sy'n digwydd yng Nghanol Nottingham ar y 14-12-08, mae'r dau digwiddiad yn cael eu cynnal yn Castlegate United Reformed Church Hall, Chaucer Street, Nottingham NG1 5JT

2 comments:

Viv said...

Da iawn Jonathan. Diolch am dy waith arbennig. Viv

Viv said...

O.N.
Nadolig Llawen Jonathan a Blwyddyn Newydd dda i ti a Marilyn. Dal at dy gwaith mor werthfawr ar gyfer yr hen iaith Gymraeg.
Viv