Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn Fore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham yn Nhŷ Siriol Colley yn ardal Bramcote. Er gwaetha’r tywydd dychrynllyd o oer efo ia ar y palmentydd a thymheredd o dan y rhew pwnt daeth 10 o bobl i'r digwyddiad.
Cawson ddigonedd o de, coffi a bisgedi a digonedd o sgwrsio.
Wnaeth Siriol cyflwyno copi i bawb presennol o bamffled am fywyd Annie Gwen Jones, Nain i Siriol, yn Rwsia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sef 'Life on the Steppes of Rwsia 1889 to 1892' a wnaeth Viv darllen pytiau tymhorol o waith Twm Elias 'Tro trwy'r tymhorau'.
Wnaeth pawb mwynhau'r bore ac yr ydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at gyfarfod nesa ym Mis Byr.
Os oes bobl sy'n darllen y pennod yma eisiau ymuno a'r grwp mi ddylen nhw'n gysylltu trwy mynd at safle we Cymdeithas Cymry Nottingham
(gwelir http://www.devamedia.co.uk/cymdeithas/nottingham/)
Friday, 8 January 2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
5 comments:
Diolch yn fawr Jonathan am dy waith asmhrisiadwy yma.
Roedd hen ddigon o hwyl fel arfer er gwaetha'r tywydd garw o'nd oedd! Druan Catherine Harris wedi cael ei haneru ar chwith y llun un yntefe, ond paid á becso Catherine, ti sydd i fynd nesa yn lletywraig ein bore coffi, felly fe fyddi di yng nghanol y llun wedyn. Hogan fferm o Fón ydy Catherine, gyda llaw, ac yn giamster ar y Ffergi bach! Bu'r peiriant 'ma yn gwneud acen Ffrengig yn lle to bach ar fy neges, nid fi cofia!
Pryd ydy pobl cwrdd ei gilydd yn Notts
Alan, i ateb eich cwestiwn, mae'r bore coffi yn digwydd fel arfer y dydd Gwener gyntaf pob mis. Os wyt ti eisiau manylion cysylltu, mi ddylech chi fynd at ein gwefan ni, sef www.derbywelshcircle.blogspot.com
Alan, sori www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com sy'n cywir
Good day! My name is Oleg Izmailov, I am a journalist from Donetsk (former Yuzivka) / I'm writing a book about the life of Yuzovka, in particular, about the life of the British colony of the city. I am interested - where you can take the book "Life on the Steppes of Rwsia 1889 to 1892," of which you wrote? Perhaps there is an electronic version? I look forward to your reply. Write to me at the address klarik2@yandex.ru advance thank you for your help. Good luck
Post a Comment