Penwythnos prysur yn Nottingham a Derby! Mi ges i fodd i fyw'r penwythnos yma, dau ddigwyddiad Cymreig a Chymraeg o fewn yr un penwythnos!
Yn gyntaf y cyfarfod misol Bore Coffi Popeth yn Gymraeg ar fore dydd Gwener, y tro 'ma yn Nhŷ Beryl yn Chilwell, roedd 12 ohonon ni, gan gynnwys tri o bobl newydd sbon sef Lewis Jones o Gymdeithas Cymry Nottingham, Yvonne Wilson yn enedigol o'r Gogledd, a Joella Price sy'n ferch ifanc enedigol o Bort Talbot ac yn astudio fel nyrs yn Ysbyty'r Brif Ysgol Nottingham (Gyda llaw mi fydd y bore coffi nesa yn nhŷ Howell a Maureen yn West Bridgford, dydd Gwener, 6ed Tachwedd).
Wedyn ar ddydd Sadwrn wnaeth 44 o bobl dod ynghyd ar gyfer y 5ed Ysgol Undydd Cymraeg Derby. Rhaid dweud diolch yn fawr iawn i'n gwirfoddolwyr holl gan gynnwys Morfudd Benyon (diolch am eich cymorth gwerthfawr iawn yn y gegin!) Huw ac Ann Griffiths, Marianne a John Pritchard (sy'n aelod o'r Orsedd), Viv Harris a Beti Potter. Diolch hefyd i'n tiwtoriaid Elin Merriman ac Eileen Walker ac yn olaf i bawb sy wedi dod.
Mae'r cylch yn prysur drefnu 3 o Weithdy Cymraeg yn Derby, felly os oes diddordeb gyda phobl, mi ddylen nhw gysylltu â ni trwy'r manylion cysylltu ar ein gwefan ni, gwelir (www.derbywelshlearnerscircle.blogpot.com)
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Da iawn oedd darllen dy sylwadau Jonathan a llogyfarchiadau o ran yr ysgol undydd. Roedd hen ddigon o waith i ti i'w baratoi a phryder hefyd heb os! Gwych oedd gweld y tri aelod newydd yn ein bore coffi. Ro'n i uwchben fy nigon i weld Lewis yno mae e'n ddyn anhygoel a licwn i ddweud petai unrhyw un ddim yn gwybod ei hanes rhaid ddarllen O tyn y gorchudd gan Angharad Price, sy'n ennill y medal rhyddiaeth sawl blynedd yn ôl. Gobeithio fydd Yvonne ddod yn gyson i'n borau coffi heb sôn am Joella Price mor ifanc, mor bert, a mor frwd dros iaith y nefoedd yntê! O.N. Cewch eich llyfrau oddi wrth Elin Ffestiniog. henbost.blaenau@virgin.net
Cyweiriad: - sy'n ennill y fedal ryddiaeth sawl blwyddyn yn ôl.
Difyrrwch ein iaith!!!!!!!!!!!!!
Post a Comment