Er gwaethaf tywydd gaeafol iawn cafodd Cymdeithas Cymry Nottingham cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg llwyddiannus iawn yn Nhŷ Beryl draw yn Chilwell ar ddydd Gwener 3 o Ragfyr.Oherwydd y tywydd garw dros yr wythnos cynt dim ond 8 ohonon ni oedd yno, sef Beryl, Siriol, Gladys, Beti, Gwynne, Viv, Howell a finnau. Cawson ni sgyrsiau diddorol a'r arlwy arferol o goffi, te a bisgedi. Diolch i Beryl am ei chroeso cynnes a'i lletygarwch.
Rwan, yr ydyn ni'n edrych ymlaen at Wasanaeth Carolau dwyieithog Cymdeithas Cymry Nottingham ar bnawn Dydd Sul 12 o Ragfyr. Nadolig llawen i bawb!

1 comments:
Diolch yn fawr iawn am hyn Jonathan - mae'n fendigedig! Viv
Post a Comment