Thursday 26 June 2008

Cuddio rhag y glaw 21 Mehefin 2008

Unwaith eto mae'na lawer o ddigwyddiadau Cymraeg wedi digwydd yr wythnos hon yn ardal Nottingham a Derby. Ar ddydd Sadwrn diweddar roedd Cymdeithas Cymry Nottingham yn cwrdd yn Nhŷ Dr Siriol Colley, Llywydd y Gymdeithas, ar gyfer parti gardd, ond roedd y tywydd mor wael wnaethon ni'n cwrdd yn Nhŷ Siriol yn hytrach na'r Ardd. Roedd nifer da o bobl yno, gan gynnwys teulu Siriol, ag ugain aelod o'r gymdeithas. Gwelir llunia.
Pnawn dydd Llun cafodd Gwynne Davies a'r Gymdeithas Nottingham sylw ar raglen Wedi 3. Roedd Alwyn Humphries wedi ymweld â'r Gymdeithas Nottingham i roi tlws Halen Y Ddaear i Gwynne am ei holl waith efo'r Gymdeithas dros y blynyddoedd.

Ar fore dydd Mawrth es i draw i gyfarfod y grŵp Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Yr wythnos yma wnaeth yr aelodau trafod beth roedden nhw wedi gwneud dros yr wythnos gynt, wedyn chwarae gem Scrabble yn y Gymraeg a chael paned o de neu goffi. Roedd digon o amser ar ôl i wneud dau glip fideo. Y cyntaf efo Dr Siriol Colley, y llall efo Allan Child. Gwelir clipiau islaw. Wnaeth pawb mwynhau’r fore. Yn anffodus does dim cyfarfod eto tan Fis Medi. Ond mi fydd pawb yn brysur, siwr o fod, dros yr haf.
Mi fydd aelodau o Gymdeithas Cymry Nottingham a Chymdeithas Cymraeg Derby yn mynd draw mewn bws i Langollan ar gyfer yr Eisteddfod Rhyngwladol.







Tuesday 17 June 2008

Elin Merriman, Athrawes Dosbarth Cymraeg Belper

Heddiw yr ydw i wedi cwrdd ag Elin Merriman, athrawes y dosbarth Cymraeg WEA yn Belper i wneud cyfweliad. Mae Elin yn dod o Swydd Derby, ond mae ei theulu hi'n dod o Gymry yn wreiddiol. Cafodd Elin ei magu yn Milford. Mae ei thad hi yn Gymro di-gymraeg, felly cafodd hi mo'r cyfle i ddysgu'r iaith pan oedd hi'n tyfu. Felly pan oedd hi'n 18 oed, aeth hi i Lanbedr i ddysgu'r iaith Gymraeg ac wedyn i Aberystwyth er mwyn gwneud gradd Cymraeg. Ar ôl graddio daeth hi'n ôl i Belper i fyw ac i weithio.

Sunday 15 June 2008

Cerddoriaeth Gymreig a Chymraeg yn Swydd Derby

Cynhaliwyd cyngerdd delyn yn Neuadd Leeke, Kings Langley, Swydd Derby ar bnawn Sul 15 o Fehefin. Cafodd y cyngerdd ei threfnu gan Helen Elisabeth Naylor, Cymraes, athrawes a thelynores o fri efo nifer sylweddol o ddisgyblion yn y ardal. Wnaeth disgyblion Helen cystadlu yn y Genedlaethol y llynedd. Mae gan Helen busnes ar lein, gwelir http://www.thelittlewelshshop.co.uk/ . Hefyd mae gan Helen uchelgais i sefydlu aelwyd o'r Urdd ac efallai i gynnal Eisteddfod leol yn Swydd Derby. Roedd y cyngerdd yn llwyddiannus iawn, a chafodd sawl cân Cymraeg ei ganu, sef Sua Gân, a Migildi Magildi i enwi dim ond dwy. Dyma glip fideo o Helen a'i disgyblion yn perfformio.

Mae pethau eraill ar y gweill, sef cynlluniau Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby i gynnal y bedwaredd Ysgol Undydd Cymraeg Derby ar ddydd Sadwrn 27 o Fedi. Mae'r Ysgol Undydd Cymraeg Derby wedi bod yn boblogaidd iawn ers 2005. 


Friday 6 June 2008

Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham 6-6-08

Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham 6-6-08.

Cynhaliwyd cyfarfod misol grŵp Bore Coffi Cymdeithas Cymry Nottingham yn West Bridgeford, Nottingham ar fore dydd Gwener 6ed Mehefin. Cafodd pawb amser da yn sgwrsio ac yn mwynhau cacennau cartrefol Beti.





Yn y dechreuad

Mae'r blog yma wedi cael ei greu er mwyn cael gofod i arddangos rhai o'r pethau Cymreig a Chymraeg sy'n mynd ymlaen yng nghanolbarth Lloegr. Dewch yn ôl yn fuan i weld lluniau, clipiau fideo ac erthyglau diddorol.
JPS